top of page
CROESO I NODDFA

Oedfaon Sul
Canolfan Morfa Nefyn
2yp



>>> Ffrind.
Ydi dy enaid yn chwilio am lonyddwch na all "Llŷn ar derfyn dydd" ei gynnig?
All tonnau Aberdaron olchi dy bechod di i ffwrdd?
All Enlli a'i llonyddwch dawelu lleisiau gwarth a bai?
All gyrraedd copa Garn Fadryn gael chdi cam yn nes at Dduw?
>>> Na - ond mae newyddion da i chdi.
Daeth Iesu er dy fwyn di.
Daeth Iesu i olchi dy bechod di drwy waed ei groes.
Daeth Iesu i dawelu cyhuddiadau gwarth a bai unwaith ac am byth.
Daeth Iesu i wneud y ffordd i chdi allu nabod Duw yn Dad.
>>> Tyd i gyfarfod Iesu a dod o hyd i lonydd go iawn i dy enaid.

Codaf fy llygaid tua'r mynyddoedd;
o ble y daw cymorth i mi?
Daw fy nghymorth oddi wrth yr ARGLWYDD,
creawdwr nefoedd a daear.
- Y Salmau 121:1-2
bottom of page
.png)