Croeso i Noddfa LlÅ·n - eglwys i bobl LlÅ·n gyfarfod, adnabod, mwynhau ac addoli Iesu Grist.
Addolwch gyda ni ar y Sul
​
Cinio 1yp - Oedfa 2yp - Panad 3yp
​Canolfan Morfa Nefyn​
​
Croeso i bawb!​



Lloua' Bach
Mae croeso mawr i fabanod a phlant bach, ynghyd â’u rhieni, neiniau, teidiau a gofalwyr ymuno efo ni yn Lloua' Bach.
​​
Mae croeso mawr i rieni sy’n disgwyl i ymuno efo ni hefyd! Ffordd bach neis i ddod yn rhan o gymuned i’ch cefnogi pan ddaw bychan.
​​
Fe allwch chi gofrestru eich plentyn ar gyfer Lloua' Bach fan hyn.
​
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni!
.png)
>>> Ffrind.
Ydi dy enaid yn chwilio am lonyddwch na all "LlÅ·n ar derfyn dydd" ei gynnig?
All tonnau Aberdaron olchi dy bechod di i ffwrdd?​
All Enlli a'i llonyddwch dawelu lleisiau gwarth a bai?
All gyrraedd copa Garn Fadryn gael chdi cam yn nes at Dduw?​
​
>>> Na - ond mae newyddion da i chdi.
​
Daeth Iesu er dy fwyn di.
Daeth Iesu i olchi dy bechod di drwy waed ei groes.
Daeth Iesu i dawelu cyhuddiadau gwarth a bai unwaith ac am byth.
Daeth Iesu i wneud y ffordd i chdi allu nabod Duw yn Dad.
​
>>> Tyd i gyfarfod Iesu a dod o hyd i lonydd go iawn i dy enaid.​​

Codaf fy llygaid tua'r mynyddoedd;
o ble y daw cymorth i mi?
Daw fy nghymorth oddi wrth yr ARGLWYDD,
creawdwr nefoedd a daear.
- Y Salmau 121:1-2
.png)